Nod Gwyfynod yn Cyfrif yw codi ymwybyddiaeth o wyfynod, hybu cofnodi gwyfynod ledled y DU, a chydlynu'r cofnodi ar y 900+ o rywogaethau o wyfynod mwy eu maint (macro-wyfynod).
Prosiect partneriaethol ydyw, dan arweiniad sefydliad Gwarchod Glöynnod Byw, lle mae rhychwant eang o sefydliadau cenedlaethol a lleol, asiantaethau llywodraethol, busnesau a llu o unigolion sy'n cofnodi gwyfynod i gyd yn chwarae eu rhan.
Mae Gwyfynod yn Cyfrif yn gweithio dros:
- Ddatblygu sylfaen eang o wybodaeth arbenigol trwy annog cofnodwyr newydd, a chefnogi'r cofnodwyr gwyfynod a'r grwpiau/rhwydweithiau cofnodi sydd eisoes yn gweithredu.
- Hyrwyddo mwy o werthfawrogiad a brwdfrydedd ynghylch gwyfynod ymhlith y cyhoedd yn gyffredinol, gan gynnwys gwleidyddion, gwneuthurwyr polisi a'r cyfryngau.
- Gweithredu'r Cynllun Cenedlaethol Cofnodi Gwyfynod a sefydlwyd yn ddiweddar a chynnal cronfa ddata gynhwysfawr, gywir a hygyrch yn dangos dosbarthiad gwyfynod mwy gwledydd Prydain.
- Cyfrannu at gadwraeth gwyfynod yn y tymor hir trwy ddarparu'r data sydd eu hangen er mwyn i bolisïau a gweithgareddau cadwraethol effeithiol gael eu rhoi mewn grym ar y lefelau lleol, rhanbarthol, cenedlaethol a rhyngwladol gan aelodau o'r cyhoedd, cymunedau a sefydliadau cyhoeddus, preifat ac elusennol (e.e. trwy lunio polisi, hysbysu penderfyniadau a chyfrannu at ymwybyddiaeth a gwybodaeth wyddonol ymhlith y cyhoedd).


.jpg)
